Mae Chris Leach & Associates Ltd wedi bod mewn busnes am yn agos i 30 mlynedd ac wedi bod yn darparu cyngor ariannol cwbl annibynnol drwy gydol yr amser hyn. Gydag ymgynghorwyr eraill yn newid cwmnïau a chysylltiadau yn rheolaidd mae sefydlogrwydd, parhad a hirhoedledd yn bwysig i ni. Pan rydym yn dweud y byddwn yn edrych ar eich ôl chi drwy gydol eich oes, rydym ni yn golygu hynny.
Mae ein hethos, sy’n cael ei yrru gan y cleient, yn treiddio drwy'r cwmni. Rydym yn gweithio fel tîm ac nid yn unig byddwch yn derbyn arbenigedd a gofal gan eich Ymgynghorydd Ariannol, ond hefyd bydd tîm o unigolion gofalgar a gwybodus yn gweithio tu ôl i'r llenni i’ch helpu i gyflawni eich amcanion.
Rydym yn ymfalchïo yn ansawdd ein cyngor. Rydym yn cymryd amser i'ch deall chi ac i'ch helpu i deimlo eich bod wedi derbyn gwerth gwirioneddol am yr amser rydych wedi ei dreulio gyda ni. Yn nodweddiadol, mae ein cleientiaid yn dweud eu bod bob amser yn teimlo'n well ar ôl cyfarfod â ni.
Mae deall eich nodau a'ch amcanion yn cymryd amser. Rydym bob amser yn sicrhau ein bod yn cymryd yr amser angenrheidiol i fynd at wraidd yr hyn sy'n wirioneddol bwysig i chi. Nid ydym yn unig yn ceisio cwrdd â'ch disgwyliadau ond i ragori arnynt.
Rydym yn darparu cyngor ariannol wedi'i deilwra at eich anghenion a’ch dyheadau. Nid ydym yn hyrwyddo unrhyw fath o gwmni neu fuddsoddiad cyn rhoi cyngor personol i chi.
Mewn byd buddsoddi, mae’n bwysig bod y strategaeth fuddsoddi wedi’i bersonoli i ofynion y cleient. Yn gyntaf mae angen i ni ddeall sut y daethoch chi i ble rydych chi nawr, ble yr hoffech chi fod, ac yna rydym yn creu strwythur buddsoddi i helpu mynd â chi yno.
Our site uses cookies. They help analyse our traffic. We only use visitor activity data in order to improve our website. If you proceed, you are consenting to our cookies and accept our Terms of Use.